Yn ogystal â’r cofebau ‘swyddogol’ i’r meirwon a welir mewn mannau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru fe grëwyd miloedd o gofebau i filwyr y Rhyfel Mawr gan sefydliadau preifat, megis capeli, gweithleoedd, ysgolion a chlybiau. Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhain i’w gweld ar y data-basau sydd ar gael o gofebau rhyfel. Mae nifer ohonynt wedi eu colli wrth i’r gweithleoedd a’r capeli gau a’r ysgolion ail-leoli; mae nifer o’r rhai sydd wedi goroesi mewn perygl o gael eu colli. Bwriad prosiect Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr yw cofnodi’r wybodaeth sydd ar y cofebau hyn, rhannu lluniau ohonynt, a rhannu unrhyw ymchwil sydd wedi’i gyflawni amdanynt.
Cofeb i’r Rhyfel Mawr a oedd yn arfer bod yn y stondin ym maes Sain Helen, Abertawe, sydd bellach ar goll
Un maes ymchwil o bwys a fydd yn cael ei hwyluso gan y prosiect hwn yw’r cwestiwn o ba effaith gafodd y Rhyfel Mawr ar gymunedau lleol. Cofnoda’r cofebau ‘answyddogol’ hyn gyfraniad aelodau grwpiau dethol lleol i’r rhyfel, ac felly mae’n bosibl eu harchwilio nid yn unig am yr hyn maent yn datgelu am fywydau unigol ond hefyd beth maent yn dweud am gyfraniad y gymuned at yr ymgyrch.
Maes ymchwil arall yw astudio’r ymatebion amrywiol i’r rhyfel, a’r effeithiau gwahanol a welwyd ar gymunedau lleol. Wrth i ni gasglu manylion am nifer o gofebau mewn un bas-data byddwn yn gallu ystyried sut a phaham y coffawyd y Rhyfel mewn ffyrdd mor wahanol. Er enghraifft, fe gynhyrchodd rhai sefydliadau (capeli, gweithleoedd ac ysgolion) ‘Restrau Anrhydedd’ hardd i gofio pawb a wasanaethodd, tra mewn mannau eraill ceir dim ond cofebau syml i’r rhai a syrthiodd. Pa ffactorau all egluro’r ymatebion amrywiol hyn? A oes gwahaniaeth rhwng y cofebau a dalwyd amdanynt gan y gweithwyr a’r rhai a ariannwyd gan y cyflogwyr? Beth yw’r gwahaniaethau yn y coffau mewn ardaloedd y glo / haearn / tunplat / chwareli llechi? Tra bod y rhan fwyaf o gofebau capeli ond yn rhestru’r dynion a wasanaethodd, mae rhai yn cofnodi cyfraniad y merched fel nyrsys neu weithwyr yn y ffatrïoedd arfau: pa batrymau gallwn eu gweld?
Cofeb i’r Rhyfel Mawr yng ngweithle Hafod Isha, Abertawe
Prif allbwn y prosiect bydd bas-data o gofebau i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru (sydd o hyd yn tyfu, er bod y broses o gasglu gwybodaeth wedi dechrau nôl yn 2014). Yn ogystal â rhannu lluniau o’r cofebau hyn, cawn rannu unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chasglu gan haneswyr lleol, ysgolion a chymdeithasau, yn enwedig y rhai a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Byddwn hefyd yn rhannu ar y wefan hon gyfres o erthyglau sydd wedi’u hanelu at gynulleidfa eang, a fydd yn archwilio rhai o’r themâu sy’n codi o’r ymchwil.
Arianwyd prosiect Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr gan y Living Legacies 1914-18 Engagement Centre
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University